Data cyfathrebu Clausole campione

Data cyfathrebu. Daeth Gorchymyn Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (Data Cyfathrebu) 2010 (OS 2010 rhif 480) i rym ar 6 Ebrill 2010 ac mae’n cadarnhau’r pwerau a geir ym Mhennod 2 o RIPA a ddarparwyd i’r Awdurdodau Lleol gan Orchymyn cyfatebol 2003. Yn gryno, mae Pennod 2 yn caniatáu i Awdurdod Cyhoeddus gaffael gwybodaeth a ddiffnnir fel “data cyfathrebu” (“communications data”). Mae hyn yn cynnwys data tanysgrifio a data gwasanaeth ond nid “data traffig” (“traffic data”) fel y’i diffinnir gan y Ddeddf. Gwybodaeth sy’n cael ei chadw gan ddarparwyr gwasanaethau cyfathrebu (e.e. cwmnïau telathrebu, rhyngrwyd a phost) sy’n ymwneud â chyfathrebiadau’u cwsmeriaid yw data cyfathrebu. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â defnyddio gwasanaeth cyfathrebu, ond nid cynnwys y cyfathrebiadau’u hunain.