POLISÏAU CYFRIFYDDU. Mae’r prif bolisïau cyfrifyddu a fabwysiadwyd, y penderfyniadau a’r prif ffynonellau o ansicrwydd amcangyfrif wrth baratoi’r datganiadau ariannol fel a ganlyn:
(a) Sail paratoi
POLISÏAU CYFRIFYDDU. Mae CSC Foundry Ltd yn gwmni preifat, cyfyngedig trwy gyfranddaliadau, sy’n hanu o Gymru a Lloegr, rhif cofrestru 10888081. Y swyddfa gofrestredig yw Canolfan Arloesi a Thechnoleg Tredomen, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed, Cymru CF82 7FN. Mae ei gyfrifon wedi'u paratoi yn unol â darpariaethau endidau xxxx Xxxxx 1A FRS102. Mae CCR Energy Ltd yn gwmni preifat, cyfyngedig drwy gyfrannau, sy’n hanu o Gymru a Lloegr, rhif cofrestru 13951868. Y swyddfa gofrestredig yw Gorsaf Bwer Aberddawan, The Leys, Aberddawan, Y Barri, Cymru CF62 4ZW. Mae ei gyfrifon wedi'u paratoi yn unol â darpariaethau endidau xxxx Xxxxx 1A FRS102. Mae Innovation Investment Capital Ltd (IIC) yn Bartneriaeth Cronfa Breifat Cyfyngedig sydd wedi’i chofrestru â Thŷ’r Cwmnïau fel cwmni rhif LP022853, gyda swyddfeydd cofrestredig yn 2il Xxxx Malta House, 36-38 Piccadilly, Llundain, W1J 0DP, lle mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi cytuno i gyflenwi hyd at £51.2mo gyllid i fusnesau arloesol yn yr ardal leol drwy’r Gronfa Cyfalaf Buddsoddi mewn Arloesedd. Mae'r gronfa wedi'i strwythuro fel Partneriaeth Gyfyngedig, gyda buddsoddiadau yn yr ardal leol yn cael eu rheoli gan PWC a Capricorn Fund Management fel Rheolwyr y Gronfa. Mae Cydbwyllgor Bargen Ddinesig Prifddinas Caerdydd yn darparu’r cyllid ar ffurf cyfraniadau partneriaeth. Cafodd ei gorffori ar 27 Medi 2022 a ffeiliwyd ei gyfrifon ffurfiol cyntaf ar gyfer y Flwyddyn Ariannol 2023/24. Paratoir y Cyfrifon Grŵp yn unol â'r Cod, gan ddefnyddio polisïau cyfrifyddu unffurf ar gyfer trafodion tebyg a digwyddiadau eraill mewn amgylchiadau tebyg. Y polisïau i’w cymhwyso yw’r rhai a nodir ar gyfer datganiadau ariannol endid sengl yr awdurdod adrodd, sy’n gofyn am adlinio’r polisïau a gymhwysir gan aelodau eraill y grŵp lle maent yn cael effaith sylweddol wahanol. Xxxxx, xxx'r datganiadau ariannol yn y cyfrifon grŵp yn cael eu paratoi yn unol â'r polisïau a nodir yn y Datganiad o Bolisïau Cyfrifyddu.