Teitl Swydd: Uwch Gyfreithiwr Tai (mae angen o leiaf 3 blynedd o brofiad ôl- gymhwyso). Contract: Parhaol.
Teitl Swydd: Uwch Gyfreithiwr Tai (xxx xxxxx o leiaf 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwyso).
Contract: Parhaol.
35 awr yr wythnos. Gweithio Hyblyg / Hybrid.
Cyflog: £35-37k y flwyddyn (yn ddibynnol ar brofiad), 28 diwrnod o wyliau blynyddol a gwyliau banc, 3% o gyfraniadau pensiwn cyflogwr a Rhaglen Cymorth i Weithwyr.
Rheolwr Llinell: Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr.
Lleoliad: Cyffordd Llandudno, gyda rhywfaint o waith hybrid a theithio i'r ardal.
Crynodeb o’r Prif Gyfrifoldebau
Xxx xxxxx cyfreithiwr brwdfrydig a phrofiadol arnom, sy’n siarad Cymraeg, sydd ag ymrwymiad cryf i gyfiawnder cymdeithasol er mwyn arwain y xxx cyfreithiol a’n gwaith achos xx xxxx tai. Mae hwn yn gyfle prin i ddylanwadu’n sylweddol ar y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaeth newydd cyffrous. Bydd deiliad y swydd yn rhan o dîm bychan, ymroddedig sy’n lansio Canolfan Gyfraith newydd yng Ngogledd Cymru.
Rydym yn chwilio am gyfreithiwr tai brwdfrydig i wneud y canlynol:
Ein helpu i sefydlu a datblygu ein gwasanaeth i ddiwallu anghenion pobl sy’n byw ar draws rhanbarth Gogledd Cymru.
Fel Cyfarwyddwr Cyfreithiol, rhoi cyfarwyddyd i’r xxxx xxxxx cyfreithiol a wneir gan y sefydliad a goruchwylio’r xxxx xxxxx hwnnw.
Cynnal a bod yn gyfrifol am ddarparu cyngor, gwaith achos, cefnogaeth a chynrychiolaeth i gleientiaid o xxx xxxx o Ogledd Cymru ar faterion tai.
Gweithio mewn partneriaeth â’n cyfreithiwr teulu i ddarparu cyngor a chynrychiolaeth arbenigol ar dai i bobl sy’n profi cam-drin domestig.
Nodi cyfleoedd i sicrhau newid cadarnhaol i gymunedau drwy ymgyfreitha strategol.
Gweithio mewn partneriaeth â lleoliadau cymunedol, asiantaethau cynghori ac asiantaethau eraill i sicrhau bod anghenion pobl leol yn cael eu diwallu a bod gwaith polisi cymdeithasol yn cael ei gydlynu i xxxx problemau rhag digwydd lle bynnag y xx xxxx.
Hysbysu a chymryd rhan yn ein gwaith addysg gyfreithiol gyhoeddus, hyrwyddo Canolfan y Gyfraith a diwylliant sy’n parchu hawliau yng Ngogledd Cymru
Disgrifiad o’r Swydd
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau:
Cynnig cyngor a chynrychiolaeth i’r cleient, yn Gymraeg ac yn Saesneg lle xx xxxxx, ar faterion tai.
Ymgymryd â gwaith achos cysylltiedig, gwneud ceisiadau am gyllid cyhoeddus yn ôl y gofyn.
Sicrhau bod yr xxxx xxxxx achos, cyngor, cymorth a chynrychiolaeth yn cydymffurfio â gofynion achrediad y sefydliad, a lle caiff ei ariannu’n gyhoeddus, yn cydymffurfio â gofynion yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol
Gweithredu fel goruchwyliwr contract cymorth cyfreithiol os bydd y sefydliad yn tendro am gontract yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol mewn cyfraith tai.
Cynrychioli cleientiaid yn y llys sirol yn Gymraeg ac yn Saesneg yn ôl y gofyn.
Cysylltu â chynrychiolwyr y landlord, cyfreithwyr, asiantaethau a grwpiau eraill yn Gymraeg ac yn Saesneg yn ôl y gofyn.
Cyfweld a chynghori cleientiaid, yn Gymraeg ac yn Saesneg, ynghylch cyfraith a phractis tai.
Gwneud gwaith allgymorth, gan gynnwys cysylltu â chymunedau lleol, rhoi sgyrsiau a chyflwyniadau i grwpiau, ac ymweld â grwpiau a chanolfannau eraill fel y bo’n briodol. Gweithio o wahanol leoliadau fel sy’n ofynnol yn rhesymol gan y Bwrdd.
Bod â’r wybodaeth ddiweddaraf xxx amser am ddatblygiadau xx xxxx cyfraith tai a digartrefedd yng Nghymru drwy hyfforddiant ac ymchwil annibynnol.
Cyflwyno sesiynau hyfforddi mewn perthynas â’xx xxxx gwaith xxxx hun i asiantaethau eraill.
Cwblhau unrhyw gofnodion eraill mewn perthynas â gwaith achos er mwyn bodloni gofynion Canolfan y Gyfraith, cynnal ystadegau a diweddaru ffeiliau cleientiaid, gan
ddefnyddio systemau llaw neu gyfrifiadurol fel sy’n briodol ac fel sy’n ofynnol gan y sefydliad.
Casglu tystiolaeth a gweithio mewn partneriaeth â darparwyr cyngor eraill yn lleol ac yn rhanbarthol i ddylanwadu ar ddatblygu polisi a deddfwriaeth mewn perthynas â thai.
Paratoi adroddiadau ar xxxx gwaith xxxx hun er gwybodaeth i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr, cyllidwyr a rhanddeiliaid eraill, yn ôl y gofyn.
Cyflawni cyfran o dasgau gweinyddol, gan gynnwys y rhai a nodir yn Llawlyfr Ansawdd Canolfan y Gyfraith.
Goruchwylio aelodau eraill y xxx cyfreithiol, a bod yn rheolwr llinell arnynt.
Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill a allai fod yn ofynnol yn rhesymol gan y Bwrdd.
Manylion y Person
Sgiliau a Phriodoleddau Hanfodol:
Ymrwymiad cryf i herio anghydraddoldeb a hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol.
Rhaid gallu bodloni safon goruchwyliwr yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol ar gyfer tai. O leiaf dair blynedd o brofiad ôl-gymhwyso mewn cyngor arbenigol ar Gyfraith Tai.
Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac ar bapur yn Gymraeg ac yn Saesneg, gydag ymrwymiad cryf i ddarparu gwasanaethau cyfreithiol yn newis iaith cleientiaid, a chynyddu doniau cyfreithiol Cymru.
Profiad o weithio xxx y cynllun cymorth cyfreithiol (Cymorth Cyfreithiol ac ardystiedig) ac ymarfer swyddogaethau dirprwyedig.
Profiad o ymgyfreitha yn y Llys Sirol gan gynnwys eiriolaeth.
Dealltwriaeth gadarn o Reolau Ymddygiad Proffesiynol yr SRA, safonau’r SQM a Rheolau Cyfrifon y Cyfreithiwr a’r gallu i’w cymhwyso yn ôl yr angen.
Profiad amlwg o filio, cyflawni targedau ariannol a gofynion cofnodi amser gan ddefnyddio ein system rheoli achosion.
Dealltwriaeth o gydraddoldeb ac amrywiaeth, ac ymrwymiad iddynt, a’u perthnasedd i gyngor cyfreithiol.
Gallu cyfathrebu’n effeithiol gyda grŵp cleientiaid y sefydliad.
Gallu gweithio xxx bwysau a chwrdd â therfynau amser.
Gallu blaenoriaethu gwaith, gan gynnwys parodrwydd i wneud gwaith xxxx, weithiau y tu xxxxx i oriau gwaith (adolygiadau barnwrol/gwaharddiadau).
Xxxxx gweithio fel aelod o dîm.
Sgiliau TG ardderchog.
Profiad o reoli llinell.
Sgiliau a Phriodoleddau Dymunol:
Profiad o weithio gyda chymunedau/unigolion sydd ar y cyrion, wedi’u heffeithio gan wahaniaethu a/neu weithio gydag asiantaethau yn y sector gwirfoddol neu statudol mewn xxxx gwaith perthnasol.
Profiad blaenorol o wneud cais am gyllid grant.