CRONFEYDD WRTH GEFN Clausole campione

CRONFEYDD WRTH GEFN. Mae’r Cyngor yn rhoi symiau penodol o’r neilltu fel cronfeydd wrth gefn at bwrpasau cael arian wrth gefn ar gyfer polisïau’r dyfodol. Mae cronfeydd wrth gefn yn cael eu creu drwy drosglwyddo symiau xxxxx o Xxxxxx y Gronfa Gyffredinol / CRT yn y Datganiad am Symudiadau yn y Cronfeydd Wrth Gefn. Pan mae gwariant i’w ariannu o gronfa wrth gefn, codir ar y gwasanaeth priodol yn y flwyddyn honno i sgorio yn erbyn yr Xxxxx xxxx Xxx xxx Ddiffyg ar Ddarparu Gwasanaethau yn y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr. Mae’r gronfa wrth gefn wedyn yn cael ei throsglwyddo yn ôl i’r Gronfa Gyffredinol / CRT yn y Datganiad am Symudiadau yn y Cronfeydd Wrth Gefn fel nad oes tâl net yn erbyn treth y cyngor / rhenti’r CRT ar gyfer y gwariant. Cedwir rhai cronfeydd wrth gefn i reoli’r prosesau cyfrifo ar gyfer asedau anghyfredol, offerynnau ariannol, ymddeoliad a buddiannau gweithwyr ac nid ydynt yn cynrychioli adnoddau y gall y Cyngor eu defnyddio – caiff y cronfeydd wrth gefn hyn eu hesbonio yn y polisïau perthnasol.