Cyfnodau rhybudd Clausole campione

Cyfnodau rhybudd. Dylai unrhyw weithwyr a fydd yn cael hysbysiad o derfynu cyflogaeth am fod eu swydd yn cael ei dileu gael cyfnod rhybudd contractiol. Bydd yr amgylchiadau’n pennu a all y sefydliad gynnig cyfnod rhybudd sy’n hwy na rhybudd contractiol y gweithiwr. Gellir ymestyn cyfnodau rhybudd er mwyn sicrhau cymaint â phosibl o gyfle i ddod o hyd i gyflogaeth amgen addas i’r gweithiwr. Yn amodol ar gytundeb y xxxxx ochr a’r llall, gall gweithiwr adael cyn i’r cyfnod rhybudd ddod i ben xxx yr amgylchiadau canlynol: os bydd yn cael swydd arall y tu xxxxx i’r GIG. Xxx amgylchiadau o'r fath, y dyddiad terfynu newydd fydd y dyddiad dileu swydd diwygiedig at ddibenion cyfrifiadau dileu swydd; neu os bydd y gweithiwr, ar ôl cael rhybudd gan y sefydliad sy’n ei gyflogi, yn rhoi gwrth-rybudd ysgrifenedig, a all, gyda chytundeb, fod yn llai na’r cyfnod contractiol, heb golli hawliau tâl dileu swydd. Hefyd, mae’n bosibl y bydd gofyn i weithiwr adael: os bydd yn ymddwyn mewn ffordd sy’n arwain at reswm arall dros ddiswyddo yn ystod ei gyfnod rhybudd dileu swydd. Mewn perthynas â’r uchod, ceidw’r sefydliad yr hawl i wneud taliad rhybudd llawn a’r hawl i daliad dileu swydd, drwy setliad llawn a therfynol, yn amodol ar reoliadau statudol.