Buddion Gweithwyr. Buddion sy’n Daladwy yn ystod Cyflogaeth
Buddion Gweithwyr. Buddion sy’n Daladwy yn ystod Cyflogaeth Buddion gweithwyr tymor byr yw'r rhai sydd i’w talu o fewn deuddeng mis i ddiwedd y flwyddyn. Maent yn cynnwys buddion fel tâl a chyflogau, gwyliau blynyddol â thâl ac absenoldeb salwch â thâl, bonysau a buddion heb fod yn ariannol (e.e. ceir) ar gyfer gweithwyr presennol, ac fe'u cydnabyddir fel costau am wasanaethau yn ystod y flwyddyn pan fydd gweithwyr yn darparu gwasanaeth i'r Cyngor. Gwneir croniad ar gyfer cost hawliau gwyliau (neu unrhyw fath o wyliau, e.e. TOIL) sy’n cael ei ennill gan weithwyr ond sydd heb ei gymryd cyn diwedd y flwyddyn lle gall gweithwyr ei gario ymlaen i’r flwyddyn ariannol nesaf. Gwneir y croniad ar y cyfraddau cyflog ac enillion cymwys yn y flwyddyn gyfrifo ganlynol, sef y cyfnod y gall y gweithiwr gymryd y buddion. Caiff y croniad xx xxxx ar yr Xxxxx xxxx Xxx xxx Ddiffyg ar Ddarparu Gwasanaethau, ond yna caiff ei wrthdroi drwy'r Datganiad ar Symudiadau yn y Cronfeydd Wrth Gefn fel bod hawliau gwyliau’n cael eu codi ar refeniw yn y flwyddyn ariannol y mae’r absenoldeb gwyliau’n digwydd ynddi.