Darparu Gwasanaeth. Dylunio, adolygu ac addasu cynnwys modiwlau ac unedau i ymateb i adborth ac anghenion myfyrwyr, gyda’r bwriad o wella cyfraddau cadw myfyrwyr. • Dilyn gweithdrefnau sicrhau ansawdd i sicrhau y bodlonir safonau'r Brifysgol. • Cydweithio â chydweithwyr academaidd ar ddatblygu a chyflwyno pynciau/rhaglenni yn yr adran, y Gyfadran ac ar draws y Brifysgol (pryd bynnag sy'n briodol) i sicrhau bod portffolio'r cwricwlwm yn parhau'n gyfredol a bod y gweithdrefnau asesu yn berthnasol. • Cydlynu digwyddiadau myfyrwyr, yn ôl yr angen, gan sicrhau y defnyddir amser ac adnoddau'n effeithiol. • Cynorthwyo gyda gweithgareddau priodol cyn-mynediad, recriwtio, dethol a derbyn (gan gynnwys Dyddiau Agored a Dyddiau Ymweld) er mwyn hyrwyddo'r adran a chael gwell dealltwriaeth am anghenion/disgwyliadau myfyrwyr. • Bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer materion yn ymwneud â llesiant myfyrwyr, gan atgyfeirio problemau pan fyddant yn gymhleth neu'n ddifrifol.