Gorbenion a gwasanaethau cymorth Clausole campione

Gorbenion a gwasanaethau cymorth. Mae costau gorbenion a gwasanaethau cymorth yn cael ei codi ar y segmentau gwasanaeth yn unol â threfniadau'r Cyngor am atebolrwydd a pherfformiad ariannol.
Gorbenion a gwasanaethau cymorth. Mae costau gorbenion a gwasanaethau cymorth yn cael eu codi ar wasanaethau sy’n manteisio ar y cyflenwad neu’r gwasanaeth yn unol â’r egwyddorion ar gostio yn y Cod Ymarfer ar gyfer Adroddiadau ar Wasanaethau 2015-16 (SeRCOP) gan CIPFA. Ar gyfer 2015-16, mae’r rhan fwyaf o gostau gwasanaethau cymorth wedi’u dyrannu yn ôl amryw o ddulliau. Y pwysicaf ymhlith y rhain yw: • defnydd gwirioneddol y gwasanaeth cymorth • amcangyfrifon o leoliad y staff, a’r rheiny wedi’u hategu weithiau gan systemau ffurfiol i gofnodi amser • dyraniadau wedi’u seilio ar symiau ariannol neu ffisegol perthnasol (e.e. niferoedd gweithwyr, nifer y llwythi a ddosbarthwyd etc) Nid yw gwasanaethau cymorth a ddiffinnir fel y Craidd Corfforaethol a Democrataidd a Chostau Heb eu Dosbarthu i’w codi ar wasanaethau uniongyrchol yn unol â SeRCOP. • Mae’r Craidd Corfforaethol a Democrataidd yn gostau sy’n ymwneud â statws y Cyngor fel sefydliad democrataidd aml-swyddogaeth. • Costau heb eu dosbarthu yw costau’r buddion dewisol a ddyfernir i weithwyr sy’n ymddeol yn gynnar ac unrhyw golledion am amhariad sydd i’w codi ar Asedau a Gedwir i’w Gwerthu. Mae’r ddau gategori hyn wedi’u diffinio yn SeRCOP ac yn cael eu cyfrif fel penawdau ar wahân yn y Datganiad Cynhwysfawr Incwm a Gwariant fel rhan o’r Gwariant Net ar Wasanaethau Parhaus.