Common use of Iechyd a Diogelwch Clause in Contracts

Iechyd a Diogelwch. Er bod y Brifysgol yn gwneud pob ymdrech i gydymffurfio â rheoliadau cyfredol parthed diogelwch ei gwesteion, cyfrifoldeb pob gwestai'r Cleient ac arweinydd pob grŵp fydd sicrhau bod y Cleient a xxxx aelodau’r grŵp neu'r parti yn gwybod am y camau gweithredu pe bai tân neu argyfwng arall. Ceir hysbysiadau o’r rheoliadau hyn ym mhob un o adeiladau’r Brifysgol a gellir cael rhagor o wybodaeth o Swyddfa Llety’r Brifysgol. Er mwyn gallu sicrhau bod adeiladau wedi'u gwacáu os bydd tân, ni chaniateir i westeion newid ystafelloedd gwely yn y llety heb ganiatâd blaenorol y Brifysgol. Gwaherddir unigolion nad ydynt yn westeion cofrestredig rhag aros ar y Campws. Ni fydd y nifer sy’n aros yn y llety yn uwch na'r nifer yn y parti a nodir ar y contract archebu. Mae’r Brifysgol yn gweithredu polisi ‘dim ysmygu’ ac ni chaniateir ysmygu mewn unrhyw adeilad nac o fewn 5 metr iddynt. Mae fflamau agored wedi'u gwahardd yn llwyr yn adeiladau’r Brifysgol. Os difrodir offer diogelwch, neu os ymyrrir ag offer diogelwch, mae'n bosib y dywedir wrth yr unigolion sy’n gyfrifol neu’r grŵp y maent yn aelod ohono am adael tir y Brifysgol. Bydd y Cleient yn indemnio’r Brifysgol yn erbyn pob math o golled a/neu ddifrod sy’n codi o ganlyniad i gamddefnyddio larymau tân, diffoddwyr tân a/neu unrhyw offer arall yn y Brifysgol, gan gynnwys yr xxxx gostau am atgyweirio eiddo’r Brifysgol neu am brynu eitemau newydd, ac unrhyw gostau eraill a godir gan y Gwasanaeth Tân neu gorff cyhoeddus arall. Bydd y Cleient yn gyfrifol am roi gwybod i’r Brifysgol cyn y dyddiad y disgwylir i’r Gwasanaethau gael eu cyflawni os oes unrhyw aelod o’r grŵp wedi dioddef salwch heintus neu wedi bod mewn cysylltiad â salwch heintus yn ystod y pedair wythnos cyn cyrraedd tir y Brifysgol. Bydd gan y Brifysgol ryddid, fel y gwêl yn ddoeth, ar ôl asesu’r risg, i ganslo archeb y grŵp cyfan os yw o’r farn (a chan weithredu’n rhesymol), ei bod yn angenrheidiol ac yn briodol gwneud hynny.

Appears in 4 contracts

Samples: Accommodation and Facilities Use Agreement, Accommodation and Facilities Agreement, Accommodation and Facilities Use Agreement