Asedau Ariannol Clausole campione

Asedau Ariannol. Ased ariannol yw'r hawl i gael buddion economaidd yn y dyfodol sydd o xxx reolaeth y Cyngor ac a gynrychiolir gan xxxxx xxxxx, offerynnau ecwiti, neu hawl mewn contract i dderbyn xxxxx xxxxx xxx asedau ariannol eraill, neu hawl i gyfnewid asedau a rhwymedigaethau ariannol ag endid arall a allai fod yn ffafriol i’r Cyngor. Dosberthir asedau ariannol ar sail dull dosbarthu a mesur sy'n adlewyrchu'r model busnes ar gyfer dal asedau ariannol a'u nodweddion o ran xxxxx xxxxx. Ceir tri phrif ddosbarth o asedau ariannol, wedi'u mesur ar sail: • cost wedi'i hamorteiddio • gwerth teg drwy elw neu golled (FVPL), a • gwerth teg drwy incwm cynhwysfawr arall (FVOCI). Model busnes y Cyngor yw dal buddsoddiadau i gasglu llifoedd xxxxx xxxxx contractiol. Mae asedau ariannol felly wedi'u dosbarthu'n gost amorteiddiedig am eu bod yn cael eu dal er mwyn talu prifswm a llog yn unig. Caiff asedau ariannol a fesurir ar sail cost amorteiddiedig eu cydnabod ar y Fantolen pan fydd y Cyngor yn xxxxx i ddarpariaethau contractiol offeryn ariannol, ac fe'u mesurir i ddechrau ar sail gwerth teg, sef cost y trafodyn fel arfer. Wedi hynny cânt eu mesur ar sail eu cost amorteiddiedig. Mae credydau blynyddol i'r Llinell Incwm a Gwariant Cyllido a Buddsoddi yn y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr (DIGC) yn cynrychioli buddsoddiadau a'r incwm sydd yn dderbyniadwy o ran llog. Ar gyfer asedau ariannol a ddelir gan y Cyngor, mae hyn yn golygu mai'r swm a gyflwynir ar y Fantolen yw'r prifswm gweddilliol sy'n dderbyniadwy (plws incwm llog a buddsoddiad cronedig). Bydd unrhyw enillion neu golledion ar ôl dileu cydnabyddiaeth o ased wedi'u credydu neu eu debydu i'r llinell Incwm a Gwariant Cyllido a Buddsoddi yn y DIGC. Mae'r Cyngor yn cydnabod colledion credyd disgwyliedig ar xx xxxx asedau ariannol a ddelir ar gost amorteiddiedig, xxxxx xx ar sail 12 mis neu ar sail oes. Dim ond colledion oes a gaiff eu cydnabod ar gyfer symiau derbyniadwy drwy fasnach (dyledwyr) a ddelir gan y Cyngor. Cyfrifir colledion amhariad i adlewyrchu'r disgwyliad na cheir llifoedd xxxxx xxxxx yn y dyfodol oherwydd gallai'r benthyciwr fethu â chyflawni ei rwymedigaethau. Mae risg credyd yn ystyriaeth hollbwysig wrth asesu colledion. Os bydd risg wedi cynyddu'n sylweddol ers cydnabod offeryn yn wreiddiol, tybir colledion ar sail oes. Os nad yw'r risg wedi cynyddu'n sylweddol, neu os yw'n parhau'n isel, caiff colledion eu hasesu ar sail colledion disgwyliedig dros 12 mis.
Asedau Ariannol. Mae Benthyciadau a Symiau i’w Derbyn yn asedau sydd â thaliadau sefydlog neu bendant ond ni chânt eu rhestru mewn marchnad weithredol. Cânt eu mesur yn y lle cyntaf yn unol â’u gwerth teg ac fe’u dygir ymlaen ar eu cost amorteiddedig. Mae credydau blynyddol i’r Cyfrif Incwm a Gwariant ar gyfer llog sydd i’w dderbyn yn seiliedig ar swm yr ased a ddygir ymlaen wedi ei luosogi â’r gyfradd llog gwirioneddol ar gyfer yr offeryn.
Asedau Ariannol. Mae’r asedau ariannol wedi’u cynnwys yn y datganiad asedau net yn ôl eu gwerth teg ar ddyddiad yr adroddiad. Cydnabyddir ased ariannol yn y datganiad asedau net ar y dyddiad y daw’r Gronfa’n xxxxx i’r cytundeb i gaffael yr ased. O’r dyddiad hwn bydd unrhyw enillion neu golledion a berir gan newidiadau yn y gwerth teg yn cael eu cydnabod gan y Gronfa. Pennir gwerth y buddsoddiadau fel y’u nodir yn y datganiad asedau net, fel a ganlyn: 3.7.1 Buddsoddiadau a ddyfynnwyd ar y farchnad Pennir gwerth buddsoddiad y mae pris ar y farchnad ar gael yn hwylus ar ei gyfer gan y pris prynu uchaf ar y farchnad ar ddiwrnod olaf y cyfnod cyfrifyddu.
Asedau Ariannol. Mae asedau ariannol yn xxxxx xxxxx, offerynnau ecwiti o fewn endid arall (e.e. cyfranddaliadau) neu hawl cytundebol i dderbyn xxxxx xxxxx xxx endid arall (e.e. dyledwyr) neu gyfenwid asedau ariannol neu rwymedigaethau ariannol o xxx amodau a fydd o bosibl yn ffafriol (e.e. eitemau deilliadau).