Gwybodaeth arall Clausole campione

Gwybodaeth arall. Bwrdd yr Ymddiriedolwyr a’r Llyfrgellydd fel Swyddog Cyfrifyddu sy’n gyfrifol am yr wybodaeth arall yn yr adroddiad a’r cyfrifon blynyddol. Mae’r wybodaeth arall yn cynnwys yr wybodaeth yn yr adroddiad blynyddol sy’n wahanol i’r datganiadau ariannol a’m hadroddiad archwilio ar hynny. Nid yw fy marn ar y datganiadau ariannol yn cynnwys yr wybodaeth arall ac, ac eithrio pan fo hynny wedi ei ddatgan yn glir yn fy adroddiad, nid wyf yn mynegi unrhyw ffurf o gasgliad sicrwydd ar hynny. O ran fy archwiliad o’r datganiadau ariannol, fy nghyfrifoldeb i yw darllen yr wybodaeth arall i nodi anghysondebau perthnasol â’r datganiadau ariannol a archwilir a nodi unrhyw wybodaeth sy’n ymddangos yn berthnasol anghywir ar sail yr wybodaeth a gafwyd gennyf wrth berfformio’r archwiliad, neu yn berthnasol anghyson â hi. Os dof yn ymwybodol o unrhyw gamddatganiadau neu anghysondebau perthnasol ymddangosiadol, byddaf yn ystyried y goblygiadau ar gyfer fy adroddiad. Yn fy marn i, ym mhob agwedd berthnasol, mae’r gwariant a’r incwm yn y datganiadau ariannol wedi eu cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd ac mae’r trafodion ariannol a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu llywodraethu. Yn fy marn i, mae’r rhan o’r Adroddiad Cydnabyddiaeth Ariannol i’w harchwilio wedi ei pharatoi yn briodol yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a wnaed o xxx xxxxx 9 o Ddeddf Amgueddfeydd ac Orielau 1992. Yn fy marn i, ar sail y gwaith a gyflawnwyd drwy gydol fy archwiliad: • mae’r wybodaeth a roddwyd yn y Datganiad Llywodraethiant ar gyfer y flwyddyn ariannol y paratowyd y datganiadau ariannol ar ei chyfer, yn gyson â’r datganiadau ariannol ac mae’r Datganiad Llywodraethiant wedi’i baratoi yn unol â chanllawiau Trysorlys Ei Mawrhydi; • mae’r wybodaeth a roddwyd yn yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol y paratowyd y datganiadau ariannol ar ei chyfer yn gyson â’r datganiadau ariannol ac mae’r Adroddiad Blynyddol wedi ei baratoi yn unol â gofynion cyfreithiol cymwys. O ystyried yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth o Lyfrgell Genedlaethol Cymru a’i hamgylchedd a gafwyd yn ystod yr archwiliad, nid wyf wedi nodi camddatganiadau perthnasol yn yr Adroddiad Blynyddol nac yn y Datganiad Llywodraethu. Nid oes gennyf ddim i’w adrodd mewn cysylltiad â’r materion canlynol, y byddaf yn adrodd arnynt os, yn fy marn i: • nad yw cofnodion cyfrifyddu digonol wedi eu cadw; • nad yw’r datganiadau ariannol a’r rhan o’r Adroddiad Cydnabyddiaeth Ariannol i’w har...
Gwybodaeth arall. Y swyddog ariannol cyfrifol sy’n gyfrifol am yr wybodaeth arall yn yr adroddiad a’r cyfrifon blynyddol. Mae’r wybodaeth arall yn cynnwys yr wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn yr adroddiad blynyddol ac eithrio’r datganiadau ariannol ac y mae fy archwilwyr yn adrodd arni. Nid yw fy marn ar y datganiadau ariannol yn cynnwys yr wybodaeth arall, ac oni nodir fel arall yn eglur yn ddiweddarach yn fy adroddiad, nid wyf yn mynegi unrhyw fath o gasgliad sicrwydd arni. O ran fy archwiliad o’r datganiadau ariannol, fy nghyfrifoldeb yw darllen yr wybodaeth arall i nodi anghysondebau sylweddol â’r datganiadau ariannol sydd wedi’u harchwilio, a nodi unrhyw wybodaeth sy’n ymddangos yn sylweddol anghywir ar sail yr wybodaeth a roddwyd imi wrth gynnal yr archwiliad, neu’n sylweddol anghyson â’r wybodaeth honno. Os byddaf yn ymwybodol o unrhyw gamddatganiadau neu anghysondebau sylweddol, byddaf yn ystyried y goblygiadau ar gyfer fy adroddiad. Yn fy marn,i sail y gwaith a wnaed yn ystid fy archwiliad: • mae’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn yr Adroddiad Naratif ar gyfer y flwyddyn ariannol y mae’r datganiadau ariannol yn berthnasol iddi yn gyson â’r datganiadau ariannol, ac mae’r Adroddiad Naratif wedi’i baratoi yn unol â’r Cod Ymarfer ar Gyfrifyddu Awdurdodau Lleol yn y Deyrnas Unedig 2019-20; ac • mae’r wybodaeth a roddir yn y Datganiad Llywodraethu ar gyfer y flwyddyn ariannol y mae’r datganiadau ariannol yn berthnasol iddi yn gyson â’r datganiadau ariannol ac mae’r Datganiad Llywodraethu wedi’i baratoi yn unol â’r canllawiau hyn. Yn sgil yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a’i amgylchedd a gafwyd yn ystod yr archwiliad, nid wyf wedi nodi unrhyw gamddatganiadau sylweddol yn yr Adroddiad Naratif na’r Datganiad Llywodraethu. Nid oes gennyf unrhyw xxxx i’w adrodd ynghylch y materion canlynol yr wyf yn adrodd arnynt os, yn fy marn i: • nad yw cofnodion cyfrifyddu wedi’u cadw’n ddigonol; • nid yw’r datganiadua ariannol yn cytuno â’r cofnodion a’r ffurflenni cyfrifyddu; neu • nid wyf wedi cael yr xxxx wybodaeth ac esboniadau sydd eu xxxxxx arnaf ar gyfer fy archwiliad.

Related to Gwybodaeth arall

  • Utenze Le VM sono configurate con modalità idonee a consentirne l’accesso unicamente a soggetti dotati di credenziali di autenticazione che ne consentono la loro univoca identificazione.