Cronfeydd Xxxx Xxxx. Mae’r Cyngor yn neilltuo symiau penodol fel cronfeydd wrth gefn at ddibenion polisïau’r dyfodol neu oherwydd digwyddiadau annisgwyl. Caiff cronfeydd wrth gefn eu creu drwy briodoli symiau o Weddill Cronfa’r Cyngor yn y Datganiad Symudiad Cronfeydd. Os cyfyd gwariant sydd i’w dalu o gronfa wrth gefn, fe’i codir ar y gwasanaeth priodol yn y flwyddyn honno i’w nodi yn erbyn y Gweddill neu’r Diffyg yn gysylltiedig â’r Ddarpariaeth Gwasanaethau yn y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr. Caiff y gronfa wrth gefn ei phriodoli wedyn yn ôl i Weddill Cronfa’r Cyngor yn y Datganiad Symudiad Cronfeydd fel nad oes unrhyw daliadau net yn erbyn y dreth gyngor ar gyfer y gwariant. Cedwir rhai cronfeydd wrth gefn i reoli’r prosesau cyfrifyddu ar gyfer asedau anghyfredol, offerynnau ariannol, buddiannau gweithwyr ac ymddeoliad. Mae’r rhain yn gronfeydd ‘na ellir eu defnyddio’ fel y disgrifir yn Nodyn 28 y cyfrifon.
Appears in 4 contracts
Samples: Datganiad O Gyfrifon, Datganiad O Gyfrifon, Datganiad O Gyfrifon