Lesoedd. Caiff lesoedd eu cyfrif yn lesoedd cyllid os yw telerau’r les yn trosglwyddo bron iawn pob un o’r peryglon a’r manteision sy’n gysylltiedig â pherchnogaeth yr eiddo, offer neu gyfarpar, o’r lesydd i’r lesddeiliad. Caiff pob les arall eu cyfrif yn lesoedd gweithredol. Os yw les yn ymwneud â thir ac adeiladau, caiff yr elfennau tir ac adeiladau eu hystyried ar wahân ar gyfer dosbarthiad. Caiff trefniadau nad oes ganddynt statws cyfreithiol les, ond sy’n cydnabod hawl i ddefnyddio ased yn gyfnewid am dâl, eu cyfrifo yn unol â’r polisi hwn os yw cyflawni’r cytundeb yn ddibynnol ar ddefnyddio asedau penodol.
Appears in 4 contracts
Samples: Datganiad O Gyfrifon, Datganiad O Gyfrifon, Datganiad O Gyfrifon