Cefndir y Polisi Clausole campione
Cefndir y Polisi. Cododd yr addasiadau i Ddeddf 1984 o gydnabyddiaeth gynyddol ymysg y farnwriaeth, ymarferwyr, arbenigwyr camdriniaeth ddomestig a'r Llywodraeth nad oedd y gweithdrefnau llys cyfredol yn diogelu dioddefwyr camdriniaeth yn ddigonol yn y llysoedd teulu a sifil. Cyn pasio Deddf 2021, roedd y llys teulu ac Adran Deulu yr Uchel Lys wedi defnyddio amrywiaeth o bwerau i sicrhau bod sefyllfaoedd anodd yn y llys yn cael eu trin mewn ffordd sensitif i bartïon bregus. Roedd hyn yn cynnwys, lle ▇▇ ▇▇▇▇, farnwr yn gofyn cwestiynau i dyst yn uniongyrchol, neu'n derbyn croesholi wedi ei recordio'n ▇▇▇▇▇ o achosion troseddol blaenorol. Ond, roedd rhai achosion lle nad oedd y mathau eraill hyn o dystiolaeth neu wneud croesholi'n ddigonol i brofi'r dystiolaeth yn yr achos yn drwyadl. Yn yr achosion hyn, ni allai llysoedd teulu benodi cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig a fyddai wedi ei ▇▇▇▇ ▇▇▇▇▇ o'r cyllid canolog i wneud y croesholiad yn lle parti. Arweiniodd hyn at sefyllfaoedd lle byddai parti'n cael ei groesholi gan eu camdriniwr, sefyllfa a allai, yng ngeiriau cyn Lywydd yr adran Deulu, “achosi weithiau, ac ar rai achlysuron yn ddigon pwrpasol, i'r camdriniaeth barhau.”5 Roedd darpariaethau adran 65 Deddf 2021 wedi eu llunio i ymdrin â'r pryderon hyn. Mewn perthynas ag achosion sifil, ym mis Ebrill 2018, argymhellodd yr Ymholiad Annibynnol i Gamdriniaeth Rhywiol Plant bod dioddefwyr a goroeswyr camdriniaeth o'r fath mewn achosion llys sifil, lle maen nhw'n hawlio iawndal mewn perthynas â'r gamdriniaeth a ddioddefwyd ganddynt, yn derbyn yr un diogelwch â thystion bregus mewn achosion llys troseddol. Yn dilyn hynny, comisiynodd y Llywodraeth y Cyngor Cyfiawnder Sifil i ystyried y materion a godwyd gan yr argymhelliad hwn. Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ac wedi i arbenigwyr roi eu barn, cyhoeddodd y Cyngor Cyfiawnder Sifil eu hadroddiad: "Tystion Agored i Niwed a phartïon o fewn achosion sifil – y safle cyfredol ac argymhellion dros newid", ym mis Chwefror 2020. Derbyniodd y Llywodraeth argymhellion y Cyngor Cyfiawnder Sifil mewn perthynas â gwahardd croesholi gan ▇▇▇▇▇ ▇▇'n ei gynrychioli ei hun, ac mae wedi deddfu ar gyfer hyn ▇▇▇▇▇▇▇ drwy'r darpariaethau yn adran 66 Deddf 2021. Mae elfennau diogelu tebyg yn bodoli o ▇▇▇ adrannau 34 - 38 Deddf 1999 i wahardd croesholi amhriodol o'r fath mewn achosion troseddol. Mae'r darpariaethau hyn wedi bod mewn grym ers mwy nag ugain mlynedd ar adeg cyhoeddi. Mae Adrannau 34 a 35 Deddf 1999 yn gwahardd pobl yn awtomatig sydd wedi ...
