Rhagymadrodd. Dyma’r wythfed adroddiad blynyddol ar weithlu gweithwyr cymdeithasol awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae’n edrych ar niferoedd cyffredinol y gweithlu a sut mae’r rhain wedi amrywio dros amser. Mae adrannau’r adroddiad yn edrych yn benodol ar yr amrywiaeth yn niferoedd y gweithlu mewn tri xxxx penodol, sef: • Gwasanaethau Oedolion; • Gwasanaethau Plant; a • Rolau eraill awdurdod lleol lle bernir bod cymhwyster gwaith cymdeithasol yn angenrheidiol. Mae’r adroddiad hefyd yn ystyried y galw a ragwelir am weithwyr cymdeithasol dros y tair blynedd nesaf, ar sail amcangyfrifon a ddarparwyd gan y 22 awdurdod lleol. Roedd bron 3,900 o weithwyr cymdeithasol wedi eu cyflogi mewn awdurdodau lleol ar ddiwedd Mawrth 2016. Mae hyn yn lleihad 3% o’i gymharu â’r nifer a gyflogwyd yn 2015. Mae nifer y rhai Cyfartal ag Amser Llawn (CALl)2 a gyflogwyd wedi lleihau hefyd gan 3% ers 2015, gyda chyfanswm o bron 3,550 CALl ar ddiwedd Mawrth 2016. At ei gilydd, mae’r sefydliad staff CALl wedi lleihau gan 1% ers Mawrth 2015. Mewn Gwasanaethau Oedolion y bu’r lleihad mwyaf, lle mae’r nifer a gyflogir wedi lleihau gan 3.9% ers 2015, dilynynodd y lleihad hwn yr un patrwm â’r flwyddyn flaenorol. Yn yr un cyfnod mae’r nifer a gyflogir mewn Gwasanaethau Plant wedi lleihau gan 0.7%. Mae’r nifer a gyflogir mewn rolau anweithredol a meysydd gwasanaeth eraill wedi lleihau gan 7% ers 2015, mae hyn yn cynrychioli 49 o bobl. Mae’r sefydliad staff CALl wedi cynyddu gan 0.8% mewn Gwasanaethau Oedolion a lleihau gan 0.1% mewn Gwasanaethau Plant ers Mawrth 2015. Nifer Gwasanaethau Oedolion Gwasanaethau Plant Anweithredol a meysydd gwasanaeth eraill Nifer Dengys cofrestr Cyngor Gofal Cymru o weithwyr cymdeithasol fod y mwyafrif (51%) yn 45 oed neu’n hŷn ac mae 22% yn 55 oed neu’n hŷn. Mae hyn yr un peth o’u cymharu â 2015 lle roedd 51% o staff yn 45 oed neu’n hŷn. Roedd y ganran 55 oed neu’n hŷn yn 21% yn 2015. 50 pennau) 40
Rhagymadrodd. 1.1 Bwriad y polisi hwn yw helpu i reoli’r broses o ddileu swyddi a sefyllfaoedd adleoli yn yr Awdurdod. Dylai gael ei ddarllen ar y cyd â’r canlynol: Polisi’r Awdurdod ar Ymddeol yn Gynnar, Ymddeol ar sail Afiechyd a Dileu Swyddi a’r Canllawiau i Reolwyr sy’n perthyn i’r polisi hwn.
Rhagymadrodd. Pan ddechreuodd y flwyddyn adrodd hon, roedd y Coleg ond ychydig fisoedd i mewn i’r pandemig Covid 19, ar ôl cau ei ddrysau ym mis Mawrth 2020. Yn ystod y cyfnod byr hwnnw o newid aruthrol, rhoddwyd pob cam hanfodol ar waith i sicrhau y gallai’r myfyrwyr gwblhau’r flwyddyn academaidd honno, ac yna parhau i ddysgu yn y ffordd orau posibl mewn modd cyfunol drwy gydol y flwyddyn academaidd nesaf. Bu’r hyn a ddigwyddodd yn gyflawniad rhyfeddol – sy’n xxxx i gymuned gyfan y Coleg yn cydweithio. O dywyllwch y cyfnod clo a’r pandemig byd-xxxx gwnaethom addunedu i ddod xxxxx yr ochr arall yn gryfach ac yn fwy uchelgeisiol nag erioed o’r blaen, gyda phenderfyniad i fod yn arweinydd disglair ar gyfer dyfodol y diwydiannau proffesiynol ac ar gyfer cymunedau ehangach yng Nghymru a thu hwnt. Hwnnw oedd ein haddewid i’r byd. Ni wastraffwyd munud yn rhoi’r adduned hwnnw ar waith, gan addasu ac arloesi i sicrhau y gallai myfyrwyr barhau â’u hyfforddiant a dysgu i ffynnu mewn dyfodol aneglur. Rydym yn diolch o waelod calon i’n cefnogwyr am ein cynorthwyo i gyflawni hyn. Gwnaethom yn siŵr ein bod yn sicrhau cymaint â phosibl o hyfforddiant wyneb yn wyneb, tra’n cadw pawb yn ddiogel. Ailddyfeisiodd y Coleg ffyrdd o gyflwyno ein cyrsiau, gan ddefnyddio technoleg ddigidol i drawsnewid ein cynnig i fyfyrwyr a chynulleidfaoedd, a olygodd nid yn unig ein bod ni’n dysgu llawer, ond bod ein myfyrwyr yn datblygu ystwythder a gwytnwch rhyfeddol a’u bod yn xxxxx ar gyfer y diwydiant. Gwnaethom hefyd ymestyn ein cyrhaeddiad ymhellach nad erioed o’r blaen - yn amrywio o ddarparu cyngherddau am ddim i gartrefi gofal ledled Cymru er mwyn goleuo ychydig ar y dyddiau tywyll hynny gyda cherddoriaeth, i werthu tocynnau cyn belled ag UDA, Canada a Corea. Gyda’n gilydd llwyddom i xxxxx tir newydd. Yn ystod y cyfnod hwn - fy mhedwaredd flwyddyn yn Gadeirydd - bu’n fraint i groesawu’r Athro Xxx Xxxxx OBE yn Is-lywydd newydd y Coleg. Xxx Xxx, a oedd yn Athro Cadair Rhyngwladol dros Gydraddoldeb yn flaenorol, yn llawn doethineb xx xxxx cydraddoldeb ac yn ffynhonnell gyson o ysbrydoliaeth ac anogaeth wrth i’r Coleg barhau ar ei daith i fod yn fan ar gyfer pawb. Hoffwn gynnig fy niolchiadau parhaus i’n Llywydd, EUB Tywysog Cymru, i’r Arglwydd Xxxx-Xxxxxx o Gilgeti, ein Cadeirydd Llawryfog, ac i’m xxxx gyd Ymddiriedolwyr am eu hymroddiad brwd ac ymroddedig. Mae Adroddiad y Cadeirydd eleni yn adrodd stori’r Coleg drwy’r prif adrannau canlynol: - 2.2 Ffeithiau Allweddol am y Coleg - 2.3 Gweledigaeth, St...
Rhagymadrodd. 4.1.1 Mae'r Cyngor Llawn yn gyfarfod ffurfiol o'r xxxx Gynghorwyr. Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’r Cyngor Llawn wneud rhai penderfyniadau pwysig gan gynnwys gosod cyllideb y Cyngor a Threth y Cyngor a chymeradwyo nifer o gynlluniau a strategaethau allweddol, sydd gyda’i gilydd yn ffurfio’r Fframwaith Polisi (a restrir isod). Mae'n gyfrifol am yr xxxx swyddogaethau ac nid cyfrifoldeb y Cabinet. Bydd yn cyflawni rhai swyddogaethau ei hun, ond bydd eraill yn cael eu dirprwyo i Bwyllgorau neu Swyddogion a enwir.
Rhagymadrodd. 6.1.1 Yn ôl y gyfraith, mae'n ofynnol i'r Cyngor gyflawni rhai swyddogaethau trosolwg a chraffu. Mae'r swyddogaethau hyn yn rhan hanfodol o ddemocratiaeth leol. Dylai Pwyllgorau Craffu fod yn bwyllgorau pwerus a all gyfrannu at ddatblygiad polisïau'r Cyngor a hefyd dwyn y Cabinet i gyfrif am ei benderfyniadau. Rhan allweddol arall o'r rôl trosolwg a chraffu yw adolygu polisïau presennol, ystyried cynigion ar gyfer polisïau newydd ac awgrymu polisïau newydd.
Rhagymadrodd. 7.1.1 Penodir y Cabinet i gyflawni xxxx swyddogaethau’r Cyngor nad ydynt yn gyfrifoldeb unrhyw ran arall o’r Cyngor, boed yn ôl y Gyfraith neu o xxx y Cyfansoddiad hwn.
Rhagymadrodd. 22.1.1 Mae gweithrediad dydd-i-ddydd yr Awdurdod yn dibynnu ar fyrdd o benderfyniadau ar sbectrwm xxxx o faterion. Er mwyn gweithredu'n briodol, yn effeithlon ac yn effeithiol, mae mwyafrif y penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud gan Swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n briodol, yn brofiadol ac wedi'u grymuso i'w gwneud.
Rhagymadrodd. 23.1.1 Rhaid darllen y dirprwyaethau a ganlyn ar y cyd â'r adran flaenorol sy'n nodi'r sail gyffredinol, cyfyngiadau, a darpariaethau pellach sy'n berthnasol i'r cynllun dirprwyo hwn.