Ymgynghori Clausole campione

Ymgynghori. 268. Cyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno’r Bil hwn, cynhaliodd dri ymgynghoriad blaenorol am yr hyn y mae’n ymrwymo i’w wneud o ran cynllunio a rheoli adnoddau naturiol Cymru mewn ffordd fwy clyfar a chydgysylltiedig. Roedd yr ymgyngoriadau hynny hefyd yn ymdrin â’r cynigion sydd ganddi er mwyn cyrraedd y nod yn hynny o xxxx. Y ddogfen ymgynghori gyntaf, a gyhoeddwyd yn 2010, oedd ‘Cymru Fyw: fframwaith newydd ar gyfer ein hamgylchedd, ein cefn gwlad a'n moroedd’, a’r ail oedd y Papur Gwyrdd, ‘Cynnal Cymru Fyw’, a gyhoeddwyd yn 2012. Cafodd Bapur Xxxx, ‘Tuag at Reoli Adnoddau Naturiol Cymru yn Gynaliadwy: Ymgynghoriad ar y cynigion ar gyfer Bil Amgylchedd’ yn ymdrin â’r cynigion deddfwriaethol ar gyfer y Bil, ei gyhoeddi yn 2013. Eir ati isod i grynhoi’r ymgyngoriadau hynny a’r ymatebion iddynt.
Ymgynghori. Os bydd yn amlwg neu os credir yn gryf y bydd newidiadau arfaethedig yn cael effaith sylweddol ar gontractau gweithwyr neu’n arwain at adleoli neu ddileu swyddi, yna bydd y gofynion statudol sy’n ymwneud â darparu gwybodaeth i undebau llafur cydnabyddedig/cynrychiolwyr staff ac ymgynghori â nhw yn cael eu dilyn yn unol ag adran 5.3 y Polisi Newid Sefydliadol – Ymgynghori ar y Cyd ar Achosion Arfaethedig o Ddileu Swyddi. Bydd gan weithwyr sydd mewn perygl y caiff eu swyddi eu dileu hawl i gynrychiolaeth drwy gydol y broses. Rhaid i’r rheolwyr wneud eu gorau ym mhob sefyllfa i sicrhau bod y broses ymgynghori’n dechrau cyn gynted â phosibl. Lle bynnag y bo’n ymarferol, cymerir pob cam posibl i leihau neu osgoi dileu swyddi yn unol â’r darpariaethau a nodir yn y Polisi Newid Sefydliadol.
Ymgynghori. Bydd y ddogfen ymgynghori yn cael ei chyhoeddi ar dudalen Cyfiawnder Ieuenctid y wefan Xxxxxxx.xxx.xx. Bydd fersiwn Cymraeg o’r ddogfen ymgynghori ar gael hefyd. Mae blwch postio pwrpasol wedi’i greu i sicrhau bod yr xxxx ymatebion yn cael eu rheoli'n briodol: xxxxxxxxxxxxxxxxxxxx@xxx.xxx.xx Y gynulleidfa darged fydd: darparwyr cyfredol yr ystad sefydliadau diogel; ymarferwyr a darparwyr gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid; elusennau plant a grwpiau pwysau cysylltiedig yn y trydydd sector; cyd-gomisiynwyr ym meysydd iechyd ac addysg; rheolwyr gwasanaethau plant awdurdodau leol; grwpiau fforwm ar gyfer grwpiau amrywiaeth gwahanol; Seneddwyr; a phobl ifanc. Mae’r BCI hefyd wedi comisiynu Barnardos a Voice i gynnal astudiaeth i gael barn pobl ifanc sy’n cael eu cadw’n xxxxx ar hyn x xxxx. Pan fyddant yn cyflawni'r gwaith hwn, bydd Voice a Barnardos yn sicrhau bod y sampl yn adlewyrchu cyfansoddiad presennol y boblogaeth garcharol ehangach. Bydd y BCI hefyd yn cysylltu’n benodol â chynrychiolwyr o’r trydydd sector yn Llundain. Bydd y BCI yn sicrhau bod cynrychiolwyr adrannau gwahanol o gymdeithas yn cael eu cynnwys ar restr y rhai a wahoddir i ymateb er mwyn hybu trafodaeth ystyrlon. Yn olaf, hoffem glywed gennych os bydd gennych unrhyw sylwadau neu ymholiadau am yr asesiad uchod. Rydym yn awyddus iawn i ddeall a ellid gwneud mwy i sicrhau'r effeithiau cadarnhaol gorau posibl o ran cydraddoldeb neu leihau'r effeithiau andwyol i’r eithaf. Bydd xxxx sylwadau’n cael eu cynnwys yn yr ymatebion ehangach a wneir fel rhan o’r broses ymgynghori. Rydym wedi ymrwymo i gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a dderbynnir.
Ymgynghori. 1.3 Statws y ddogfen hon
Ymgynghori. 1.2.1 Bu’r Canllawiau Cynllunio Atodol Seilwaith Gwyrdd a’r Nodiadau Cyfarwyddyd Technegol yn cyd-fynd â hwy yn destun ymgynghori fel yr amlinellir yn Atodiad **. Mae Atodiad ** yn nodi’r prif newidiadau ac ymatebion eraill i’r sylwadau a dderbyniwyd. Cafodd ei gymeradwyo gan y Cyngor ar *****.
Ymgynghori. 2.1 Pan fydd sefyllfa bosibl o ddileu swyddi wedi’i nodi, bydd angen ysgrifennu at yr undebau llafur cydnabyddedig a rhoi hysbysiad ynglŷn ag ymgynghori ffurfiol.
Ymgynghori. 11. Xxx xxxxx 6(2) o Ddeddf 2012 yn nodi bod dyletswydd ar Gynghorau, cyn gwneud is- ddeddfau, i ymgynghori ag unrhyw un (gan gynnwys, cyngor cymuned, lle y bo'n gymwys) y cred yr awdurdod fod y mater yn debygol o fod o ddiddordeb xxxx xxx effeithio arno.